Amcangyfrif Blynyddol 2023-24

 Y Comisiwn Etholiadol, Cymru

Costau’r Senedd

2023-24

Sylwadau

£000

Costau Uniongyrchol (tâl a di-dâl)

 

 

 

Gweinyddu Etholiadol

 

 

 

Cymru

249

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau cefnogi datblygiad polisi a deddfwriaeth mewn perthynas â diwygio cyfansoddiadol y Senedd a diwygiadau Llywodraeth Cymru i foderneiddio etholiadau yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys rhoi barn arbenigol ar bolisïau a deddfwriaeth ddrafft sy'n ystyried barn y gymuned etholiadol ledled Cymru.
Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu a darparu canllawiau ar-lein a darparu adnoddau i ymgeiswyr ac asiantau, Swyddogion Canlyniadau/Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol. 
Byddwn yn defnyddio ein safonau perfformiad gan ymgysylltu â Swyddogion Canlyniadau/Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gefnogi a herio’r modd y maent yn cyflawni digwyddiadau a gweithgareddau etholiadol.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gymuned etholiadol yng Nghymru trwy’r amryw grwpiau rhanddeiliaid rydym yn eu rheoli, er enghraifft Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a Phanel Pleidiau’r Senedd.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i roi cyngor a barn arbenigol wrth i ddiwygiadau moderneiddio etholiadol pellach gael eu datblygu.
Bydd tîm Cymru hefyd yn rhoi adnoddau a chymorth i brosiectau sy’n cael eu cynnal y tu allan i Gymru (e.e. ar adrodd deuol) ond sy’n cael effaith uniongyrchol ar etholiadau datganoledig.
Byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol drwy fodloni Safonau’r Gymraeg a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a byddwn yn arwain ac yn cefnogi’r Comisiwn ehangach i sicrhau bod ein hymrwymiadau i’r Gymraeg yn cael eu cynnal.

 

Cefnogaeth a Gwelliant

18

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o'r costau sy'n gysylltiedig â chefnogi monitro a chefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyflawni eu swyddogaethau cofrestru etholiadol statudol. Mae hefyd yn cynnwys parhau i adolygu'r Safonau Perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau i sicrhau bod newidiadau deddfwriaethol perthnasol yn cael eu hadlewyrchu yn y fframweithiau safonau perfformiad.

 

Canllawiau

45

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o'r costau sy'n gysylltiedig â darparu cyngor mewn ymateb i ymholiadau gan Swyddogion Canlyniadau/Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol drwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd yn cynnwys diweddaru ein cyfres o ganllawiau ac adnoddau craidd yn ôl yr angen yng ngoleuni adborth a/neu newidiadau deddfwriaethol

 

Adnodd benodol

117

Mae hyn yn cynrychioli costau dau aelod o staff a fydd yn cael eu cyflogi i gefnogi’r gwaith o gynnal rhaglen diwygio etholiadol helaeth Llywodraeth Cymru a’r Senedd - gan sicrhau bod y ddeddfwriaeth gymhleth hon yn glir ac yn ymarferol - yn ogystal â hyrwyddo ein rhaglen addysg i bleidleiswyr, a phobl ifanc yn benodol.    

 

429

 

 

Cyfreithiol

 

 

 

Cyfreithiol

80

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gyfanswm cost darparu cymorth cyfreithiol i swyddogaethau cyngor, arweiniad a rheoleiddio’r Comisiwn. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi datblygu unrhyw argymhellion polisi, yn ogystal â rhoi cyngor cyfreithiol cyffredinol a chyfredol ar ddeddfwriaeth Cymru, a chefnogi swyddogaethau’r Comisiwn fel y bônt yn ymwneud â Chymru (gan gynnwys cofrestru, rheoleiddio, polisi, gweinyddu etholiadol, llywodraethu a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg).  Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhoi cyngor ar gynigion ar gyfer diwygio etholiadol yng Nghymru a sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei rwymedigaethau atebolrwydd i’r Senedd.

 

 

 

Rheoleiddio

 

 

 

Cofrestru ac adrodd

72

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o'r costau sy'n gysylltiedig â datblygu gwariant clir a hawdd ei ddefnyddio, rhoddion a chanllawiau adrodd ar ôl y bleidlais. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn darparu hyfforddiant, seminarau pwrpasol a chymorthfeydd cynghori i bleidiau, ymgeiswyr ac asiantau, i sicrhau dealltwriaeth o’r cyfreithiau a lefelau uchel o gydymffurfiaeth, gan gynnwys yn benodol ag unrhyw ofynion newydd. Rydym yn darparu cymorth wedi'i dargedu i randdeiliaid wedi'i deilwra i'w hanghenion unigol.

 

Monitro a gorfodi

65

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau sy’n gysylltiedig â’r gwaith cydymffurfio a gorfodi sy’n deillio o bleidiau ac ymgyrchwyr yng Nghymru. Mae ein gwaith monitro yn cynnwys adolygu gweithgarwch ymgyrchu, a nodi unrhyw achos lle mae angen ymyrraeth ragweithiol i sicrhau bod ymgyrchwyr yn cydymffurfio, neu wneud gwaith gorfodi os oes angen. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC) o fewn pob ardal Heddlu i roi cyngor ac arweiniad yn ystod cyfnod yr etholiad. Mae ein gwasanaethau cynghori ar gael i’n holl endidau a reoleiddir a’n holl rhanddeiliaid.

 

Cymorth rheoleiddiol

50

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau ar gyfer y gwaith sy’n gysylltiedig â’r adroddiadau statudol sydd eu hangen gan bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, megis adroddiadau rhoddion a benthyciadau chwarterol, cofrestriadau blynyddol manylion pleidiau a chyflwyniadau blynyddol Datganiadau o Gyfrifon.

 

267

 

 

 

 

 

Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil

 

 

 

Ymgyrchoedd a Hunaniaeth Gorfforaethol

41

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm ymgyrchoedd y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. Bydd y swyddogion yn cefnogi tîm Cymru ar feysydd diwygio etholiadol yng Nghymru a byddant yn gallu helpu i gynhyrchu unrhyw wybodaeth i bleidleiswyr sy'n berthnasol i'r etholwyr. Byddant hefyd yn cefnogi gwaith partneriaeth i sicrhau bod grwpiau sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i bleidleisio yn deall unrhyw ddiwygiadau posibl.

 

Cyfathrebu a dysgu digidol

78

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm cyfathrebu a dysgu digidol y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar ein gwaith llythrennedd gwleidyddol presennol drwy ddatblygu adnoddau addysg newydd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, a darparu hyfforddiant a chymorth i athrawon ar sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn. Byddwn hefyd yn parhau i wneud gwaith ymgynghori gyda’n partner llais ieuenctid a phobl ifanc ledled Cymru, i gael eu hadborth a’u mewnbwn ar ein hadnoddau i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn addas i’r diben. Byddwn yn dechrau datblygu prosiectau addysg gymunedol, gan ddatblygu adnoddau i'w defnyddio ymhlith grwpiau sydd wedi eu tan gofrestru a grwpiau sydd wedi ymddieithrio.

Mae hyn hefyd yn cynnwys ein gwaith cyfathrebu digidol. Mae ein tîm cyfathrebu digidol yn datblygu ac yn cynnal ein gwefan ddwyieithog a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gefnogi cyhoeddi gwybodaeth ar draws y Comisiwn yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer ein rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys pleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol ac ymgyrchwyr.

 

Cyfathrebu allanol

68

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm cyfathrebu allanol y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff ei amser ei dreulio. Mae hyn yn cynnwys ymdrin ag ymholiadau adweithiol gan y wasg a materion cyhoeddus; ymgysylltu’n rhagweithiol â’r cyfryngau ar gyfer cyhoeddiadau rheoleiddio arferol ac adroddiadau’r Comisiwn, a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd ag Aelodau’r Senedd. Bydd cefnogaeth swyddfa'r wasg a materion cyhoeddus yn cynyddu ar gyfer gweithgarwch sy'n ymwneud ag agenda diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru.

 

Ymchwil

47

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o weithgareddau ymchwil gan gynnwys yr arolwg blynyddol o agweddau'r cyhoedd ac asesu cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol.

 

Polisi

53

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau dadansoddi polisi i gefnogi datblygiad polisi a deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.

 

287

 

 

 

 

Cyfanswm Costau Uniongyrchol

983

 

 

 

 

Costau Anuniongyrchol

 

 

 

Adnodd

304

5% o gostau swyddfa gefn, gan gynnwys rhent, cyfraddau, TGCh, cyllid, Adnoddau Dynol a chostau rheoli

 

Dibrisiant

127

5% o’r dibrisiant ar gyfer gwariant cyfalaf, gan gynnwys uwchraddio’r system Cyllid Gwleidyddol a systemau eraill

 

431

 

 

 

 

Cyfanswm Costau Anuniongyrchol

431

 

 

 

 

Cyfanswm cyfraniad

1,414